Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024
Pwynt Craffu Technegol 1: Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt a wneir ond yn ystyried bod y diffiniad ym mharagraff 4(6) o Atodlen 2 yn ddigon i wahaniaethu rhwng y ddau ystyr.
Pwynt Craffu Technegol 2: Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y byddai cynnwys diffiniad o’r cyrff hyn wedi bod yn fwy manwl gywir. O fewn y cyd-destun, fodd bynnag, mae’r bwriad a’r effaith gyfreithiol yn glir ac yn gywir. Byddwn yn manteisio ar y cyfle i fynd i’r afael â’r mater hwn yn ôl yr angen y tro nesaf y caiff y Rheoliadau eu diwygio.
Pwynt Craffu Technegol 3: Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y dylai’r rhifo yn Atodlen 2, ym mharagraff 2, yn is-baragraff (2) fod wedi cyfeirio at “is-baragraff (1)”; ar y cyd â Chofrestrydd yr OSau rydym yn archwilio’r posibilrwydd o wneud y newid drwy gyfrwng slip cywiro.
Pwynt Craffu Technegol 4: Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y gallai cynnwys diffiniad o “Bwrdd Gofal Integredig” fod wedi bod yn fwy manwl gywir. O fewn y cyd-destun, fodd bynnag, mae’r bwriad a’r effaith gyfreithiol yn glir ac yn gywir. Byddwn yn manteisio ar y cyfle i fynd i’r afael â’r mater hwn yn ôl yr angen y tro nesaf y caiff y Rheoliadau eu diwygio.
Pwynt Craffu Technegol 5: Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod y cyfeiriad at adran 11 o’r Ddeddf o fewn Atodlen 2, ym mharagraff 6(1)(a), yn ddiangen. Mae i’r ddarpariaeth, fodd bynnag, yr effaith gyfreithiol gywir. Byddwn yn manteisio ar y cyfle i fynd i’r afael â’r mater hwn yn ôl yr angen y tro nesaf y caiff y Rheoliadau eu diwygio.
Pwynt Craffu Technegol 6: Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r pwynt a godir gan y Pwyllgor. Mae’r bwriad a’r effaith gyfreithiol, fodd bynnag, yn glir ac yn gywir. Byddwn yn manteisio ar y cyfle i fynd i’r afael â’r mater hwn yn ôl yr angen y tro nesaf y caiff y Rheoliadau eu diwygio.
Pwynt Craffu ar Rinweddau 7: Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r amryfusedd. Mae’r Cyfarwyddydau bellach wedi eu cyhoeddi ac ar gael er 29 Chwefror 2024.